Cyngor ynglŷn â Hygyrchedd
Sut galla i gynyddu maint y ffont yn fy mhorwr gwe?
Systemau Windows:
Gwasgwch a daliwch yr allwedd Ctrl, yna pwyswch yr arwydd – neu + (sydd wedi’u lleoli fel arfer nesaf at y bysell BACKSPACE) hyd nes y cewch y maint testun a ddymunwch.
Systemau Mac:
Gwasgwch a daliwch allwedd Option neu Alt, allwedd Command, yna pwyswch yr arwydd – neu + hyd nes y cewch y maint testun a ddymunwch.
Sut ydw i’n “panio a sganio” pan fydd testun wedi ei wneud yn fwy?
Defnyddiwch y saethau i fyny / i lawr ac i’r chwith / i’r dde ar eich bysellfwrdd
Sut ydw i’n lansio’r meddalwedd chwyddo sydd wedi’i gynnwys?
Windows Vista a 7:
Cliciwch ar y logo Windows ar waelod chwith y sgrin; teipiwch ‘magnify’ yn y blwch chwilio. Cliciwch ar yr eicon sy’n ymddangos i lansio’r meddalwedd.
Windows Vista a 7 (dewis arall):
Gwasgwch a daliwch yr allwedd Windows, yna pwyswch allwedd r. Teipiwch ‘magnify’ yn y blwch sy’n agor, yna gwasgwch enter i lansio’r feddalwedd
Systemau Mac:
Gwasgwch a daliwch allwedd Option neu Alt, allwedd Command, yna pwyswch allwedd 8. Fel dewis arall, gwasgwch a daliwch yr allwedd Function, allwedd Command ac allwedd F11.
Sut ydw i’n galluogi’r lliwiau cyferbyniad uchel?
Windows Vista a 7:
Gwasgwch allwedd, Alt yr allwedd Shift ar y chwith ac allwedd argraffu’r dudalen ar yr un pryd.
Mac OSx:
Gwasgwch y botymau Shift, Alt, Apple ac 8 ar yr un pryd.
Sut ydw i’n newid lliw cefndir y tudalennau a ddangosir yn fy mhorwr gwe?
Internet Explorer:
Cliciwch ar y ddewislen offer (yr eicon gêr, ar y dde ar y brig). Cliciwch ar y botwm ‘Hygyrchedd’
Dewiswch yr opsiwn “Anwybyddwch y lliwiau a bennir ar dudalennau gwe”
Cliciwch y botwm ‘Iawn’
Nesaf, cliciwch y botwm ‘lliwiau’, gan osod y lliwiau yn ôl eich dymuniad.
Firefox
Cliciwch ar ddewislen Firefox ar y chwith yn y brig, yna dewisiadau, yna cynnwys.
Cliciwch “lliwiau”, yna tynnwch y ticiau o’r blychau ar gyfer “defnyddio lliwiau’r system” ac “a chaniatáu i dudalennau ddefnyddio eu lliwiau eu hunain”.
Dewiswch y lliw cefndir y dymunwch ei gael.