Wrth symud ymlaen, mae Darren yn gobeithio datblygu’r ap ymhellach, gan greu lle diogel ar-lein i ddefnyddwyr gysylltu ac adeiladu cymuned, ble gall defnyddwyr gefnogi ei gilydd ac annog ei gilydd i fod yn fwy agored a chefnogol ym maes iechyd meddwl. Gall cael cymuned ar-lein o’r fath helpu pobl sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl a’u hannog i ofyn am gefnogaeth bellach yn fwy agored yn hytrach na chuddio eu teimladau. Gall hyn fod yn ffordd wych o hwyluso cefnogaeth iechyd meddwl i’r rhai nad ydynt bob amser yn gwybod ble i chwilio amdano, a drwy blatfform, y maent yn gyfarwydd ag o.
Rydym yn edrych ymlaen at weld yr ap yn datblygu, a methu disgwyl gweld sut mae pethau yn mynd!
Mae’r ap wedi cael ei lansio ar siop ap Apple ac Android, ac mae ar gael yn awr.
