Fel rhywun sydd â chlefyd siwgr Math 1, mae Dr Burke yn aml wedi gorfod delio â’r doluriau coesau a thraed a achosir gan ei gyflwr. Mae bob amser wedi credu, er bod rhai deunyddiau gorchudd diddorol ar y farchnad, maent i gyd yn seiliedig o gwmpas y dull craidd o ‘roi deunydd ar ddolur’. Mae’r dulliau hyn, er eu bod wedi’u profi’n llwyddiannus, yn aml yn dod gyda heriau, yn bennaf cadw’r doluriau yn aseptig wrth eu galluogi i wella’n gyflym ac yn naturiol.
Ar ôl ymchwilio ymhellach iddo, penderfynodd Luke ymchwilio i ddeunyddiau adsugnol, meddygaeth aildyfu, a nano-dechnoleg. Gweithiodd yn y diwydiant drwy ddefnyddio technoleg a thechnegau ar flaen y gad ac arloesol, gan wireddu eu manteision mewn ystod o senarios meddygol. Yn ystod yr amser hwn, deallodd Luke yr anawsterau o gynhyrchu, diheintio a phacio deunyddiau micro a nano-ffeibrog hefyd, a’r canlyniadau clinigol gwael a’r costau uchel sy’n wynebu systemau gofal iechyd o gwmpas y byd ar hyn o bryd.