Mae dull arloesol James yn defnyddio inc arian a grëwyd yn arbennig ac sy’n gallu dargludo trydan i’r un graddau ag arian a ddefnyddir yn fasnachol, ynghyd â phroses adfer unigryw. Yn sgil y broses hon, gellir adfer gronynnau arian o’r cynnyrch terfynol heb ddefnyddio cemegau gwenwynig, ac o’r herwydd gellir ailgylchu’r swbstrad trwy ddefnyddio’i ffrwd wastraff ei hun. Ymhellach, gellir ailddefnyddio’r arian a adferir yn sgil y broses hon i greu inciau arian newydd heb fod angen unrhyw waith prosesu pellach – mae hyn yn arbed ynni ac yn lleihau costau.
Wrth dreialu’r dull hwn yn y labordy, dangoswyd bod modd adfer yr arian o swbstrad papur gyda lefel effeithlonrwydd o 94%, a hynny trwy ddefnyddio dŵr yn unig. Mae cynhyrchu inc arian ecogyfeillgar yn cynrychioli’r cam cyntaf tuag at greu dyfeisiau electronig argraffedig gwirioneddol ailgylchadwy.