Lansio In-Call i gefnogi datblygiadau arloesol Prifysgol Abertawe

Ionawr 22, 2020
Mae AgorIP yn lansio galwad fewnol i bob aelod o staff sydd ag arloesedd unigryw y mae angen cymorth masnachol arno. Mae hwn yn gyfle gwych i ddod â’ch technolegau a’ch syniadau profedig i’r farchnad, gyda chymorth a chefnogaeth tîm profiadol o reolwyr trosglwyddo technoleg (TTM). Wedi’i leoli o fewn yr ysgol reolaeth, mae AgorIP yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru.
Bydd arian Cymorth Masnachol AgorIP yn cynnig hyd at £10,000 yn unol ag anghenion y prosiect. I gymryd rhan yn yr alwad hon, bydd angen i chi lawrlwytho a llenwi’r ffurflen a’i chyflwyno i [email protected] erbyn dydd Mercher 26 Chwefror. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno eich arloesedd i banel asesu. Byddwch yn cael cymorth i baratoi ar gyfer eich cyflwyniad.
Os byddwch yn llwyddiannus yn ystod y cam hwn, byddwch yn cael TTM o fewn y tîm AgorIP, a fydd yn eich cefnogi i gyflawni eich nodau masnachol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm ar y cyfeiriadau canlynol:
Coleg Peirianneg – Berna Jones: [email protected]
Coleg Y Celfyddydau a’r Dyniaethau – Emma Williams: [email protected]
Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton – Kyam Gilkes-Murray: [email protected]
Yr Ysgol Reolaeth – Steve Powell: [email protected]
Coleg Gwyddoniaeth a Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe – Yvonne Jones: [email protected]
Coleg Y Gwyddorau Dynol ac Iechyd – Michael Smith: [email protected]
Ewch i’r ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gwblhau’r cais.
Tags: AgorIP, Swansea University, Welsh Government