AgorIP – cynnig cymorth i fusnesau bach a chanolig yn ystod COVID-19

14th Gor 2020

Mae AgorIP yn helpu academyddion, clinigwyr, busnesau ac arloeswyr yng Nghymru i droi eu syniadau a’u cynnyrch yn atebion a all helpu i ddod â budd i Gymru.

Wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe, gall AgorIP wario arian ar eich rhan i’ch helpu i gyflawni masnacheiddio. Gallai’r arian hwn dalu am gost ymchwil i’r farchnad, mentoriaid busnes/masnachol, datblygiad fideo prototeip neu demo, dylunio graffig, byrddau stori, diogelu eiddo deallusol a chostau ymgysylltu masnachol.

Mae AgorIP am greu Cymru well ac iachach, ac yr ydym am helpu busnesau bach a chanolig a busnesau i gyflawni hynny. Yn gyfnewid am ein cymorth, rydym yn gofyn am eich ymrwymiad i helpu Cymru, drwy sicrhau buddsoddiad preifat i chi a’ch busnes, gan greu swydd a fydd o fudd i economi Cymru, gan greu cynnyrch newydd i’r farchnad a’ch cwmni, neu gydweithio â chynlluniau a busnesau eraill. Mae hyn i gyd yn mynd tuag at helpu Cymru i ffynnu.

Rydym bellach yn gallu cynnig cymorth i fusnesau bach a chanolig yn ystod y cyfnod heriol hwn o bandemig COVID-19 a thu hwnt, diolch i WEFO a Llywodraeth Cymru. Rydym yn ymwybodol y dylem ni chwarae ein rhan ein hunain, ac rydym yn awyddus i helpu busnesau bach a chanolig oroesi a ffynnu yn ystod y cyfnod hwn.

I gael gwybod mwy am gael gafael ar gymorth a chyngor, ewch i’r linc canlynol a chwblhau’r cais.

 

AgorIP-SME-Commercial-Support-Enquiry-Form