AgorIP: Galwad arloesi o fewn GIG Cymru
28th Medi 2020
Mae AgorIP yn lansio galwad mewnol i GIG Cymru sydd â syniad newydd sydd angen cymorth masnachol. Dyma gyfle gwych i ddod â thechnolegau a syniadau newydd i’r farchnad, ac i gysylltu gyda phartneriaid diwydiant a buddsoddwyr gyda help a chymorth tîm profiadol o Reolwyr Trosglwyddo Technoleg.
Os oes gennych chi syniad newydd a all fod o fudd iechyd a llesiant Cymru ac rydych eisiau masnacheiddio, mae AgorIP yma i’ch helpu chi. Gall tîm AgorIP gynnig chwiliadau eiddo deallusol, ymchwil i’r farchnad, adeiladu byrddau stori, creu prototeipiau neu ddatblygu fideo prawf, yn ogystal â dylunio graffeg. Gall y tim eich helpu i weithio gyda’ch busnes neu fentoriaid masnach a gall eich cefnogi chi i gasglu buddsoddiadau er mwyn cyrraedd y farchnad neu ddiogelu cytundeb trwydded, ac fel mae’r enw’n awgrymu, gall AgorIP eich helpu i ddiogelu eich IP.
Rydym eisiau adeiladu Cymru well ac iachach, ac rydym yn ymrwymo ein hamser i helpu’r GIG i fod yn rhan o hynny. Yn gyfnewid am ein cymorth, gofynnwn am eich ymrwymiad i helpu Cymru hefyd, a hynny drwy sicrhau buddsoddiad preifat i chi a’ch busnes, creu swyddi er budd economi Cymru, creu cynhyrchion newydd i’w cyflwyno i’r farchnad ac i’ch cwmni neu gydweithio â chynlluniau a busnesau eraill.
Mae hyn oll yn mynd tuag at helpu Cymru i ffynnu, sy’n rhan o nod AgorIP fel prosiect a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru.
Bydd cyllid Cymorth Masnachol AgorIP yn cynnig hyd at £10,000, yn ôl anghenion y prosiect. I gymryd rhan yn yr alwad, bydd angen ichi gwblhau’r ffurflen gellir ei lawrlwytho a’i chyflwyno i [email protected] erbyn dydd Dydd Gwener 23 Hydref.