AgorIP yn rhoi hanes i Brifysgol Abertawe gyflawni statws RTTP am y pedwerydd tro

3rd Gor 2020

Aelod o staff AgorIP yw’r pedwerydd person yn hanes Prifysgol Abertawe i ennill statws Gweithiwr Proffesiynol Trosglwyddo Technoleg Cofrestredig (RTTP). Cyflawnodd y Rheolwr Trosglwyddo Technoleg, Berna Jones, y safon broffesiynol ryngwladol ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth a masnacheiddio trwy ei gwaith yn AgorIP a phrofiad helaeth y tu allan i’r prosiect.

Mae AgorIP yn dod ag academyddion, clinigwyr a busnesau at ei gilydd i arloesi mewn ymchwil i dechnolegau blaengar ac ysgogi llwyddiant masnachol gyda chefnogaeth Prifysgol Abertawe, a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

RTTP yw’r Safon Ryngwladol ar gyfer Cymhwysedd a Phrofiad Proffesiynol ymarferwyr Cyfnewid Gwybodaeth/Trosglwyddo Gwybodaeth/Trosglwyddo Technoleg (KE/KT/TT) sy’n gweithio mewn prifysgolion, diwydiant a labordai’r llywodraeth.

Mae 564 RTTP ledled y byd, wedi’u gwasgaru dros 40 o wledydd mewn chwe chyfandir. I ennill statws RTTP, rhaid i ymgeiswyr allu dangos eu bod wedi cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau trwy arwain prosiect trosglwyddo gwybodaeth cymhleth rhwng y sylfaen ymchwil a sefydliadau busnes neu gymunedol. Mae Ms Jones wedi bod yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ers 10 mlynedd, yn ymwneud yn bennaf â phrosiectau a ariennir yn allanol ac gan yr Undeb Ewropeaidd (UE). Yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol, mae hi wedi gweithio fel Swyddog Effaith, ac wedi rheoli’r prosiect Cyfrif Cyflymu Effaith (IAA) a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC). Mae hi hefyd wedi gweithio fel Swyddog Trosglwyddo Gwybodaeth mewn prosiect A4B a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Ymunodd ag AgorIP o Adran Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesedd y Brifysgol yn 2017. Dywedodd Michael Smith, Uwch Reolwr Trosglwyddo Technoleg, “Mae pob un ohonom ni yn Agor IP yn falch iawn o Berna. Mae ennill y statws hwn yn adlewyrchiad o’r gwaith caled a phroffesiynoldeb y mae’n ei roi i bob agwedd o’i r