Galwad am Gyllid Arloesedd i’r GIG
3rd Tach 2021
A ydych chi’n gweithio o fewn GIG Cymru, ac eisiau masnacheiddio eich arloesedd?
Mae AgorIP yn gwahodd unrhyw un sy’n gweithio i GIG Cymru i wneud cais am gymorth a chyllid! Rydym eisiau helpu i fasnacheiddio ymchwil, technolegau, dyluniadau neu syniadau newydd.
Mae AgorIP yn brosiect arloesedd unigryw sy’n ceisio gwireddu syniadau a dyfeisiadau. Caiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe. Gall AgorIP helpu gweithwyr proffesiynol o fewn GIG Cymru i sylweddoli ar bosibiliadau eu syniadau, cynnyrch neu ymchwil. Gall ein harbenigwyr eich helpu i fasnacheiddio arloesedd a sicrhau ei fod yn llwyddiant!
GWNEWCH GAIS HEDDIW!
Mae ein galwad am gyllid yn annog prosiectau trosglwyddo arloesedd a thechnoleg i wneud cais am ein cymorth, cefnogaeth a chyllid posibl, fydd yn cael ei reoli gan ein Rheolwr Trosglwyddo Technoleg (TTM) dynodedig yn AgorIP. Gellir cynnig cyllid o £10,000 neu fwy, yn dibynnu ar yr arloesedd!
I wneud cais, mae’n rhaid i chi gwblhau’r Ffurflen GIG, sydd ar gael drwy’r ddolen uchod, a’i hanfon at [email protected]
Os hoffech gymryd rhan yn ein sesiwn Cymorth ac Ymholi, anfonwch neges e-bost [email protected] i gadw eich lle. Drwy wneud hyn, cewch gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau ynghylch eich arloesedd a/neu ynghylch y broses ymgeisio.
Cymorth
Rydym wedi bod yn cefnogi sawl Bwrdd Iechyd yn y GIG ers 2016. Mae pob prosiect yn unigryw, ac rydym yn sicrhau bod y cymorth a’r anghenion yn canolbwyntio ar y prosiect. Isod, gweler rhai enghreifftiau o’r cymorth mae ein TTMau wedi ei ddarparu’n ddiweddar:
- Darparu cyllid o £7500 i gyflogi mentor busnes arbenigol
- Dod o hyd i gyllid gwerth £5000 i gael mentor i baratoi cynnig ar gyfer cwmnïau cyhoeddi
- Cefnogi’r gwaith o gofrestru nod masnach
- Trafod contract cyhoeddi gyda Gwasg Prifysgol Caergrawnt
Mae Galwad am Gyllid Arloesedd i’r GIG yn agored i bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.
Gwybodaeth Bellach
Oherwydd meini prawf archwilio ein cyllidwyr a pholisïau a gweithdrefnau caffael y Brifysgol, bydd yr arian sy’n cael ei ddyrannu fesul prosiect BBaCh yn cael ei weinyddu rhwng y Brifysgol a’r 3ydd parti sy’n hwyluso’r gwasanaeth i’r cwmni e.e. Ymchwil i’r farchnad, Llenwi Patentau, Datblygu Prototeip, Ariannu Mentoriaid Masnachol neu adroddiadau Marchnad Arbenigol. DS – Ni wneir unrhyw daliadau uniongyrchol o’r Brifysgol i’r BBaCh.
Gan fod AgorIP yn cael ei ariannu’n allanol drwy gyllid strwythurol yr UE, mae’r Prosiect yn cael ei lywio gan dargedau gyda dangosyddion a chanlyniadau allweddol i’w cyflawni erbyn mis Mehefin 2023. O ganlyniad, bydd yn ofynnol i BBaChau a gefnogir gwblhau gwaith papur gyda chymorth eu TTM dynodedig at ddibenion archwilio. Mae’r canlynol yn amlinelliad o ddangosyddion AgorIP:
- Patentau a gofrestrwyd
- Cymorth nad yw’n ariannol
- Cynnydd mewn cyflogaeth
- Buddsoddiad preifat
- Mentrau newydd a gefnogir
- Cynnyrch newydd i’r farchnad
- Cynhyrchion newydd i’r cwmni
- Sefydliadau ymchwil â chymorth
Themâu Trawsbynciol:
Yn ogystal â’r dangosyddion uchod, mae gan AgorIP gyfrifoldeb i gyflawni yn erbyn Themâu Trawsbynciol, gan gynnwys cynaliadwyedd a chyfle cyfartal ac mae hyn yn un o ofynion unrhyw gyllid y cytunwyd arno. Bydd AgorIP yn ymgysylltu â phob prosiect GIG sy’n cyrchu cyllid i gyflawni’r canlynol:
- Mynediad a chyfranogiad gyda Phecyn Adnoddau Diogelu Dyfodol eich Busnes Llywodraeth Cymru
- Mabwysiadu/gwella Strategaeth Cynaliadwyedd
- Mabwysiadu neu wella Strategaeth Cydraddoldeb
Ynglŷn ag AgorIP
Mae AgorIP yn brosiect arloesi unigryw sy’n gweithio i ddod â syniadau a dyfeisiadau’n fyw. Wedi’i ariannu yn Rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe. Mae AgorIP yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig, academyddion a’r GIG i wireddu potensial eu syniadau, eu cynnyrch neu eu hymchwil. Mae ein Tîm yma i helpu i fynd ag IP i’r farchnad a’i wneud yn llwyddiant masnachol.
Mae Agor yn golygu ‘Agored’ yn Gymraeg ac mae IP yn sefyll am Eiddo Deallusol (IP). Mae cael y math cywir o ddiogelwch eiddo deallusol yn atal eraill rhag defnyddio neu gopïo enwau cynhyrchion neu frandiau, dyfeisiadau, dyluniad ac edrychiad cynhyrchion ac unrhyw beth a ysgrifennwyd, a wnaed neu a gynhyrchwyd.
Mae’r Alwad Arloesi Ariannu BBaChau hon yn agored i fusnesau bach a chanolig ledled Cymru, sy’n cwmpasu’r ddau ranbarth ariannu Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a Dwyrain Cymru.
Gyda phwy rydym yn gweithio a beth allwn ni ei ariannu?
- Amddiffyniad Eiddo Deallusol
- Strategwyr Busnes
- Rheolwyr Contract Cyfreithiol
- Adroddiadau Marchnad Arbenigol
- Canllawiau Asesu’r GIG
- Mentoriaid ac Arweinwyr masnachol