ION: Rhaglenni arweinyddiaeth wedi eu hariannu’n llawn i gefnogi busnesau Cymru
10th Gor 2020
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y gallwn bellach, diolch i gymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, gynnig rhaglenni arweinyddiaeth wedi eu hariannu’n llawn tan ddiwedd Awst 2021.
Ar ôl gorfod gohirio nifer o raglenni’n gynharach eleni oherwydd argyfwng Covid-19, bydd y rhaglenni’n ail-ddechrau ym mis Medi 2020. Hefyd, fyddwn yn rhedeg cwrs ‘Arwain Arloesi’ yn mis Dachwedd.
Mae Cyfarwyddwr y Rhaglen Gary Walpole yn croesawu’r newyddion:
“mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i fusnesau yng Nghymru ac rydym yn falch iawn o gefnogi arweinwyr drwy gynnig rhaglenni wedi eu hariannu’n llawn. Yn draddodiadol cyflwynir ein rhaglenni wyneb yn wyneb ond rydym wedi addasu’r darparu i gynnig dull cyfunol o ddysgu. Bydd y rhaglenni’n dechrau’n rhithiol gyda’r nod o gynnal mwy o sesiynau wyneb yn wyneb tuag at ddiwedd pob cohort.
Rydym yn edrych ymlaen yn ofnadwy at weithio gyda pherchnogion busnes ar draws Cymru i’w helpu i adfywio eu busnesau a ffynnu yn y dyfodol ar ôl blwyddyn helbulus iawn.”
Cefnogir ION Leadership gan £3.6m o arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop i wella sgiliau, cynhyrchedd a throsiant mewn busnesau yng Ngorllewin Cymru, yn y Cymoedd a rhannau o Ogledd Cymru. Dros y 10 mlynedd ddiwethaf rydym wedi cefnogi dros 1400 o arweinwyr mewn dros fil o fusnesau i ddatblygu mentrau busnes cynaliadwy a phroffidiol.
Felly sut allwch chi gymryd rhan?
Mae mor hawdd ag 1, 2, 3:
- Ydych chi’n gymwys? Mae’r rhaglen wedi’i hariannu’n llawn ar gael i fusnesau ac unigolion ar draws Cymru sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso. Rhoddir mwy o fanylion yn ein Cwestiynau Cyffredin.
- Chwiliwch am gwrs sy’n lleol i chi, fel y gallwch fynychu ar ddyddiadau’r rhaglenni. Ewch i’n tudalen cyrsiau i gael gwybod mwy am raglenni sydd i’w cynnal.
- Cofrestru.
Mae lle ar y rhaglenni hyn yn brin, felly cofiwch gysylltu cyn gynted â phosib. Oherwydd yr argyfwng coronafeirws, mae’r tîm ION ar hyn o bryd yn gweithio o gartref felly os hoffech siarad ag aelod o’r tîm, cysylltwch ag unrhyw un o’r tîm yr ydych eisoes yn eu hadnabod, neu gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio [email protected] neu ionleade[email protected] a bydd ein tîm recriwtio’n cysylltu gyda chi.