Mae Letzee yn tyfu – teithiau rhithwir 3D ar gael ar gyfer popeth sy’n gysylltiedig ag eiddo!
15th Medi 2021
Mae John yn fyfyriwr Rheolaeth Busnes yn yr Ysgol Reolaeth. Sefydlodd ei gwmni Letzee yn 2019 drwy greu teithiau rhithiwr 3D i landlordiaid allu tywys tenantiaid posib o amgylch eiddo, sy’n eu caniatáu nhw i ddelio â mwy o ymweliadau heb orfod bod yno yn bersonol i dywys pobl o amgylch yr eiddo. Ehangodd Letzee ei randdeiliaid allweddol drwy lansio ail wasanaeth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd oedd yn cynnig teithiau rhithiwr i rieni a myfyrwyr newydd o amgylch ysgolion. Dyma’r feddalwedd berffaith ar gyfer creu cyfleustra i bopeth sy’n ymwneud ag eiddo.
Ar ôl cyflwyno cyfyngiadau y llynedd, roedd Letzee yn offer gwerthfawr i denantiaid a phrynwyr o ran gweld eiddo gwahanol yn rhithiol yn ystod Covid-19, ac i ddisgyblion oedd yn ymuno ag ysgolion newydd. Mae gan Letzee y feddalwedd berffaith i gynnig taith rithiwr i bobl pan y dymunant, heb orfod disgwyl hyd nes y codwyd y cyfyngiadau, oedd yn ansicr am gyfnod hir.
Dywedodd Josh “Rwyf wedi mwynhau’r broses o adeiladu busnes o’r dechrau. Rwy’n cael teimlad gwerth chweil o wybod fy mod i/Letzee yn gallu darparu gwasanaeth sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan nifer o landlordiaid a busnesau ar draws y ddinas. Mae Prifysgol Abertawe a AgorIP wedi bod yn wych o ran fy nghefnogi ar hyd y daith. Mae gennyf gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer dyfodol y cwmni ar ôl graddio o’r brifysgol yn ddiweddar. Os hoffai unrhyw un wybod mwy, cysylltwch â mi!”
Gyda diolch i AgorIP, mae Letzee wedi cael ei gyflwyno i gysylltiadau allweddol i helpu’r busnes i dyfu, a helpu i wella gwasanaeth a chynnyrch gydag ychydig o fireinio, ynghyd â chymorth ar gyfer ei gynllun a’i gynnig busnes.
Dywedodd Berna Jones, AgorIP TTM a weithiodd gyda Josh, ‘mae Letzee yn darparu gwasanaethau arloesol iawn i landlordiaid preifat, gwerthwyr eiddo, asiantaethau llety myfyrwyr ac ysgolion! Ers cyfnod clo Covid-19, mae pwysigrwydd gwasanaeth Letzee wedi dod yn fwy sylweddol ac yn cael ei gydnabod yn ehangach. Mae bob amser yn bleser gweithio gyda’n myfyrwyr a gweld eu syniadau a’u busnesau’n tyfu. Rwy’n falch o fod yn rhan o dîm Letzee’.
Mae Letzee yn wasanaeth newydd gwych, fydd yn helpu busnesau i arbed amser ac arian, helpu prynwyr i arbed amser drwy beidio â gorfod teithio a chyfyngu amseroedd ymweld, a bydd yn elwa cymaint o ysgolion drwy helpu rhieni a phlant i wneud dewisiadau.
Rydym yn edrych ymlaen at weld Letzee yn tyfu ac yn parhau i fod yn wasanaeth gwych ar gyfer darparu teithiau rhithiwr 3D.