Talking Type 1 – Llyfrau i gefnogi anghenion seicolegol

19th Gor 2021

Mae Dr Rose Stewart, Seicolegydd Clinigol, sy’n gweithio i Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan, wedi cyhoeddi casgliad o lyfrau i helpu pobl sy’n byw gyda diabetes. Mae’r llyfrau’n canolbwyntio’n benodol ar yr ochr seicolegol o fyw â diabetes.

Yn 2016, roedd Dr Rose yn rhedeg cynllun peilot mewn gwasanaeth Diabetes Pobl Ifanc yng Ngogledd Cymru, ac yn gyflym iawn, sylweddolodd ar y diffyg cymorth seicolegol i bobl sy’n byw â diabetes. Yn dilyn hyn, dechreuodd Dr Rose ysgrifennu ei llyfr cyntaf i gefnogi eu hanghenion seicolegol.

Mae cyfres lyfrau Talking Type 1 yn cynnwys detholiad o lyfrau i gefnogi plant, oedolion a theuluoedd sy’n byw gyda diabetes. Ar hyn o bryd, mae pedwar llyfr o fewn y gyfres; Diabetes Burnout, Not OK with Needles?, Diabetes Distress & Burnout for Parents & Carers, a llyfr i blant – How to manage a Mammoth.

Roedd y llyfrau’n boblogaidd gyda’r GIG yn syth, ac maent wedi cael eu dosbarthu i bob clinig diabetes yng Nghymru, ac maent am ddim i unrhyw un yng Nghymru. Os hoffech chi ddarllen llyfr, cysylltwch â’ch Nyrs Arbenigol Diabetes i drefnu hyn.

Wrth i’r llyfrau gael eu cyhoeddi ledled Cymru, cyn pen dim roedd staff y GIG mewn ardaloedd eraill yn y DU yn gofyn sut i gael copïau ar gyfer eu gwasanaethau nhw, ac roedd pobl yn gwneud ymholiadau yn rhyngwladol hefyd.

Cysylltodd Dr Rose ag AgorIP ar ôl cael clywed am eu harbenigedd. Mae AgorIP yn dwyn ynghyd clinigwyr, academyddion a busnesau er mwyn cynnal ymchwil arloesol i dechnolegau blaengar a hybu llwyddiant masnachol gyda chymorth Prifysgol Abertawe. Mae AgorIP wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Dr Rose Stewart, “Gwnaeth AgorIP ein helpu ni i gymryd y cam nesaf yn ein prosiect, a dod o hyd i’n ffordd drwy fyd dryslyd contractau a chytundebau cyhoeddi. Roedd y tîm yn gyfeillgar iawn, ac fe gymeron nhw’r amser i ddeall beth yn union oedd ei angen arnon ni”

Daeth AgorIP i gynnig eu cymorth, a chefnogi Dr Rose a’i thîm i gymryd y cam nesaf at gyhoeddi’r llyfrau. Trafododd AgorIP y contract gyda Cambridge University Press.

Dywedodd Yvonne Jones, un o’r Rheolwyr Trosglwyddo Technoleg sy’n cynorthwyo gyda Talking Type 1: “Mae wedi bod yn bleser helpu Rose i drafod contract cyhoeddi ar gyfer ei llyfrau. Cyn bo hir, bydd y deunyddiau hyn yn cael eu dosbarthu’n fyd-eang, ac yn helpu cymaint yn fwy o blant a’u teuluoedd i ymdopi â diabetes.”

Ar ôl rhoi trefn ar y cyfan, mae GIG Lloegr wedi gwneud archeb enfawr am 300,000+ o lyfrau. Yn dilyn llwyddiant y llyfrau a’r cytundeb cyhoeddi, bydd yr elw a wnaed o’r llyfrau yn mynd yn ôl i Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan. Bydd hyn yn helpu i ariannu’r prosiect gwych fel ei fod yn parhau, ac yn cefnogi mwy o bobl yng Nghymru sy’n byw gyda diabetes.

Mae 2 lyfryn arall yn yr arfaeth, a’r gobaith yw y bydd y lansiad llyfrau nesaf yn digwydd yn nes ymlaen yn y flwyddyn yng Nghymru – Adjusting to Life with Diabetes, sydd ar gyfer pobl sydd wedi cael diagnosis diweddar o ddiabetes math 1, a llyfr arall ar gyfer plant, How to Handle a Hedgehog.

Dywedodd Dr Rose Stewart “Mae wedi bod yn gyffrous iawn gweld Talking Type 1 yn datblygu o brosiect diddordeb i gyfres lyfrau ryngwladol. Rydym yn gobeithio y gall y llyfrau hyn helpu pobl sydd â diabetes i gael gafael ar rywfaint o’r cymorth seicolegol sydd ei angen arnynt, a sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain”